Cymraeg

Croeso

Mae’r wybodaeth hon yn y Gymraeg wedi ei chyfieithu o’r Saesneg gan ein gwirfoddolwraig, Miriam Williams, a raddiodd yn ddiweddar gyda gradd Meistr mewn Cymraeg o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Mae Green Allotments yn diolch iddi am ei hymroddiad i hyrwyddo’r elusen yn yr iaith Gymraeg

Baner Cymru. Welsh Flag.

Creu safleoedd rhandiroedd newydd

Bob amser er budd elusen, byth er elw!

Hoffech chi gael rhandir?

Ydych chi’n chwilio am randir?  Ac wedi blino ar y rhestrau aros hir?

Gallwn eich helpu. Gweithiwch gyda ni i gael safle rhandiroedd newydd nid-er-elw i’ch ardal chi! Gallwch ddysgu mwy am ein cynlluniau ar gyfer rhandiroedd newydd cyffrous yn Morpeth yn Northumberland trwy glicio yma.

Elusen yw Green Allotments. Rydym yn creu safleoedd rhandiroedd newydd. Nid yw’r hyn a wnawn er elw, a gellir rhentu plotiau am brisiau fforddiadwy. Rydym eisiau gweld mwy o bobl yn medru tyfu eu bwyd eu hunain, ac elwa ar fanteision rhandiroedd i’w hiechyd a’u lles. Rydym yn ariannu safleoedd rhandiroedd newydd cyfan trwy The New Allotment Site Fund.

Mae cynorthwyo naill a’r llall, creu ymdeimlad o gymuned, a grymuso garddwyr rhandiroedd i fod yn warchodwyr ac yn stiwardiaid dros ein safleoedd rhandiroedd yn rhan fawr o bwy ydym ni. Rydym yn credu’n gryf yng ngallu rhandiroedd i ehangu a gwella bioamrywiaeth i sicrhau bod rhandiroedd yn hafan i fyd natur. Bydd safleoedd Green Allotments yn cael eu diwyllio trwy arferion garddio cynaliadwy er lles byd natur.

Os ydych chi’n rhannu’r un gwerthoedd â ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â ni.

Ydych chi wedi ystyried sefydlu safle rhandiroedd newydd erioed?

Mae Green Allotments yn chwilio am unigolion angerddol sydd eisiau bod yn rhan o’r gwaith o sefydlu rhandiroedd nid-er-elw yn eu hardal nhw.

Bydd cefnogaeth lawn, hyfforddiant a mentora ar gael. Mae gennym aelodau yn rhan o’n tîm sy’n arbenigo mewn rhandiroedd. Ni fyddwch ar eich pennau eich hunain.

Darllenwch am ein Grŵp Cychwyn yn Green Allotments Morpeth i ddysgu sut rydym yn gweithio gyda phobl leol. Rydym yn elusen gwbl nid-er-elw, a byddwch chi’n helpu pobl yn eich ardal chi.

Oes gennych chi ddiddordeb? Ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy? Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Cysylltwch â ni i ddysgu mwy ynghylch sut ydym ni’n gweithio, ac i rannu eich syniadau a’ch brwdfrydedd.

Yn Eisiau Tir ar gyfer Safleoedd Rhandiroedd Newydd

Mae elusen Green Allotments yn chwilio am dir ar gyfer safleoedd rhandiroedd nid-er-elw newydd.

Oes gennych chi glwt o dir a fyddai’n addas?

Efallai eich bod yn ystyried sut y gallwch roi yn ôl i’ch cymuned leol, neu ynghylch Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol. Elusen ydym ni, nid yw’r hyn a wnawn er elw ond yn hytrach er budd pobl leol.

Ar hyn o bryd, mae gennym ddiddordeb mewn tir o 1 i 2 erw o ran maint. Gallwn hefyd dderbyn tir ar ffurf rhodd.

Mae ein tîm yn cynnwys perchnogion tir profiadol, gyda dros 35 mlynedd o brofiad o brynu a gwerthu tir. Rydym yn brynwr arian parod. Nid ydym yn ymwneud â bancio tir, nid ydym yn gweithredu er mwyn gwneud elw o gwbl. Cysylltwch â ni ar gyfer trafodaeth gychwynnol heb rwymedigaethau.

Amdanom ni

Ein Gweledigaeth

Gweledigaeth Green Allotments yw cynyddu darpariaeth rhandiroedd yn strategol trwy greu safleoedd rhandiroedd nid-er-elw newydd.

Mae Green Allotments yn prynu tir ac yn creu safleoedd rhandiroedd newydd. Elusen ydym ni. Rydym yn gweithio er lles y cyhoedd, ac nid er elw ariannol na phersonol.

Yr hyn nad ydym yn ei wneud:

Nid ydym yn creu ‘safleoedd mega’ o gannoedd o blotiau rhandir.

Nid ydym yn gwneud elw. Rydym yn gweithredu bob amser er budd yr elusen, a byth er elw.

Nid ydym yn cynllunio gwedd na dyluniad rhandiroedd newydd nes ein bod wedi ysgrifennu at gartrefi a thirfeddianwyr cyfagos, er mwyn rhoi cyfle iddyn nhw rannu eu syniadau a’u meddyliau gyda ni.

Nid ydym yn dechrau ar unrhyw waith ar safle randiroedd newydd heb ganiatâd Awdurdod Cynllunio Lleol.

Nid ydym yn dechrau ar unrhyw waith ar safle rhandiroedd newydd heb ganiatâd Awdurdod Cynllunio Lleol, lle bo angen.’

Ein tîm

Tîm Green Allotments

Mae ein tîm yn dod ag ymarferwyr profiadol o’r sector elusennol, tirfeddianwyr, ac arbenigwyr eraill ynghyd, sydd wedi ymrwymo i ddod â rhandiroedd newydd i gymunedau.

Mae tîm Green Allotments yn cynnwys Ymddiriedolwyr, Staff, a thîm gwych o Wirfoddolwyr. Gallwch ddarllen mwy am ein gwirfoddolwyr hael, a sut mae ymgeisio i ddod yn wirfoddolwr yma.

Ymddiriedolwyr Green Allotments

Angus Hanton: Bu Angust yn berchennog ar randir yn y 1980au, ac mae wedi bod yn arddwr prysur ers hynny. Mae wedi helpu i sefydlu gerddi cymunedol yn Bell House yn Dulwich, lle mae grŵp o arddwyr yn gofalu am ardd dwy erw sy’n cynnwys gerddi llysiau eang gyda gwenyn a gwinwydd. Mae wedi meithrin rhwydwaith o arbenigwyr a rheolwyr ar randiroedd, sy’n awyddus i helpu elusen Green Alltoments, ac maent eisoes wedi helpu i lunio syniadau ymarferol. Ymhellach, mae Angus wedi bod yn brynwr tir gweithredol am dros 30 o flynyddoedd, felly mae’n ymwybodol iawn o’r materion sy’n ymwneud â chanfod a phrynu tir.

Harriet Lamb CBE: Mae Harriet Lamb CBE yn arweinydd profiadol ar elusennau sy’n mynd i’r afael â materion cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae ei gwaith wedi cynnwys cefnogi datrysiadau sy’n seiliedig ar natur i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, ac angen pobl am fwyd iach a gofod gwyrdd i dreulio amser ynddo – a gall Green Allotments fod yn rhan allweddol o hynny. Mae ganddi brofiad o gefnogi grwpiau cymunedol, ac o weithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi datrysiadau cymunedol lleol, yn ogystal â phrofiad o reoli elusennau. Yn arddwraig gwyrdd ei hun, y mae wedi bod yn ymddiriedolwr ar sawl elusen, yn cynnwys cynllun bocs llysiau oedd yn prynu gan erddi cymunedol lleol.

Helen Boome: Mae Helen yn economydd ac yn gyfrifydd siartredig. Treuliodd ugain mlynedd yn PwC cyn ymddeol i gael treulio mwy o amser gyda’i theulu. Mae hi’n arddwraig ac yn amgylcheddwraig brwd, ac mae hi’n angerddol dros yr etifeddiaeth naturiol yr ydym yn ei gadael ar ôl i genedlaethau’r dyfodol.

Prif Weithredwr

Dr Deborah Burn, PhD. Mae Deborah yn gyd-awdur ar Growing in the Community, sef canllaw’r Local Government Association ynglŷn ag arferion da wrth reoli rhandiroedd. Mae hi wedi gweithio ar brosiect cenedlaethol i gynyddu poblogrwydd rhandiroedd (2003-2011), ac wedi ennill PhD am ei hymchwil i gydweithrediad cymdeithasol anffurfiol heb anogaeth ymysg garddwyr rhandiroedd. Gweithiodd fel Swyddog Ymchwil a Datblygu i’r Gymdeithas Randiroedd, cyn symud i Green Allotments yn gynnar yn 2024. Mae hi wedi bod yn arddwraig mewn rhandiroedd ers 1995, ac wedi gwasanaethu fel cadeirydd ar gymdeithas rheolaeth rhandiroedd sydd bellach wedi ei dirprwyo. Dywedodd Deborah: “Er bod garddio rhandir yn medru bod yn brofiad llawen, mae llawer o’m bywyd a’m gyrfa mewn perthynas â rhandiroedd wedi ymwneud â herio a brwydro mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Er enghraifft, o gael rhywun yn dweud nad ddylwn i fod yn aelod o lywodraethwyr rhandir oherwydd fy mod yn fenyw (yn ôl yn y 1990au), i glywed am brofiadau unigolion a oedd yn teimlo nad oedd croeso iddyn nhw  mewn rhandiroedd oherwydd pwy oedden nhw, neu sut yr oedden nhw yn garddio (neu’r ddau). Rydw i’n credu’n gryf mewn Rhandiroedd i Bawb. Bydd y safleoedd rhandiroedd a grëir gan Green Allotments yn fywiog, yn groesawgar, ac yn ofod diogel i bob aelod o’r gymuned”.

Os ydych chi’n rhannu’r un gwerthoedd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cysylltwch â Ni.

Canllaw cyflym i Randiroedd

Mae Green Allotments yn anelu i gynyddu darpariaeth rhandiroedd, trwy fodel darpariaeth arloesol. Er mwyn deall yn union pa mor arloesol ydi ein gwaith, mae’n gymorth gwybod ynghylch y tri math gwahanol o randir yn ôl y gyfraith.

Y tri math o Randiroedd: Mae gerddi rhandiroedd yn cynnwys plotiau bach o dir sy’n cael eu rhentu i unigolion ar gyfer tyfu llysiau, ffrwythau a blodau yn anfasnachol. Mae tri phrif fath: rhandiroedd statudol, dros dro, a phreifat.

Bydd rhandiroedd statudol yn cael eu darparu gan gynghorau lleol yn unig, drwy Ddeddf Rhandiroedd 1908 a chyda gwarchodaeth o dan Ddeddf Rhandiroedd 1925. Mae’r math hwn o safle rhandiroedd yn cael ei ddynodi yn benodol ar gyfer defnydd rhandiroedd yn unig, ac ni all gael ei werthu na’i ddefnyddio at ddibenion eraill heb ddilyn prosesau cyfreithiol penodol. Mae’r statws cyfreithiol yn ceisio darparu gwarchodaeth gref yn erbyn gwaith datblygu. Os bydd rhandiroedd statudol yn cael eu dymchwel, mae rhaid iddyn nhw gael eu newid yn ddarpariaeth well neu gystal.

Caiff rhandiroedd dros dro hefyd eu darparu gan gynghorau at ddefnydd rhandiroedd, ond nid ydyn nhw wedi eu dynodi yn swyddogol. Yn hanesyddol, cawsant eu darparu ar dir nad oedd mewn defnydd, a thir oedd yn aros am ddatblygiad neu ddefnydd yn y dyfodol, megis mynwentydd. Gan fod ganddyn nhw ddiffyg statws statudol, gall rhandiroedd dros dro gael eu hawlio gan y cyngor ar fyr rybudd. Nid oes ychwaith unrhyw drefniant awtomatig i’r safle ddatblygu’n un ‘statudol’.

Rhandiroedd Preifat: Mae llawer o wybodaeth anghywir yn bodoli ar hyn o bryd ynghylch rhandiroedd preifat, sut maen nhw’n gweithio, beth maen nhw yn ei wneud, a lle mae’r arian rhent yn mynd.

Gall rhandiroedd preifat fod o dan berchnogaeth a rheolaeth unigolyn preifat, cwmnïau, neu sefydliadau megis elusennau, cwmnïau sydd â diddordeb mewn cymunedau, neu gymdeithasau tai. Roedden nhw’n bodoli cyn rhandiroedd cyngor, ac yn gweithredu fel ffurf ar gymorth cymdeithasol i’r rhai tlawd. Mae llawer o randiroedd preifat yn parhau o gwmpas heddiw, ac mae ganddyn nhw hanes balch. Mae rhai rhandiroedd preifat yn cael eu creu o’r newydd heddiw, fel yr ydym ni’n ei wneud yma yn Green Allotments ar sail nid-er-elw.

Mewn geiriau eraill, mae ‘preifat’ yn golygu nad yw’r cyngor yn darparu rhandiroedd ar y safle.

Felly lle mae arian rhent y rhandiroedd yn mynd? Dyma y cwestiwn pwysicaf i’w ofyn pan ydych chi’n siarad am randiroedd preifat!

Y gwir yw, “mae’n dibynnu”:

Rhandiroedd Preifat Nid-er-elw – Dyma ydym ni’n ei wneud yn Green Allotments: mae’r arian a ddaw drwy renti yn cael ei fuddsoddi yn syth yn lles y safle rhandiroedd. Wedi i gostau rhedeg gael eu neilltuo, mae unrhyw elw yn mynd yn ôl i redeg y safle rhandiroedd. Dyma ydym ni’n ei wneud yn Green Allotments. Nid oes unrhyw elw yn cael ei wneud. Mae’r cyfan yn ymwneud lles cymdeithas, a chynorthwyo cymuned y rhandiroedd.

Rhandiroedd Preifat er elw – Yn yr achos hwn, mae’r arian rhent yn mynd yn syth i boced yr unigolyn sy’n darparu’r rhandiroedd. Ar ôl costau rhedeg, maent yn cael cadw’r elw i gyd, ac yn gwneud yr hyn a fynnent gydag o. Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw un yn prynu awyren breifat gyda’r elw, ond gallent wneud hynny pe baent yn ei ddymuno.

Mae mwy i randiroedd na’r gyfraith! Mae rhandiroedd yn fannau bob dydd bywiog, lle mae pobl yn cysylltu â’i gilydd ar draws cenedlaethau, yn dysgu sut i dyfu bwyd gyda’i gilydd, yn helpu ei gilydd, ac yn cyfrannu at ddarpariaeth weithgar, werdd a bioamrywiol. Mae rôl rhandiroedd o ddatblygu a chynnal iechyd meddwl a chorfforol da yn cael ei gydnabod, yn ogystal â’u rôl o greu lle mewn cymunedau lleol yn y gorffennol a’r presennol.

Rhandiroedd a Dyngarwch

Dod â dyngarwch yn ôl i Randiroedd.

Beth yw Dyngarwch?

Dymuniad i hybu lles eraill, a fynegir trwy roddion hael o arian, amser, neu adnoddau i achosion da yw dyngarwch. Yn wahanol i elusen – sydd yn aml yn canolbwyntio ar gymorth uniongyrchol mewn achosion o ddioddefaint neu angen – mae dyngarwch yn dueddol o gynnwys ymdrechion strategol hirdymor ar raddfa fawr i ddatrys problemau cymdeithasol a gwella amodau byw i bobl a/neu’r blaned.

Yn ei hanfod, mae dyngarwch yn ymwneud â rhoi yn ôl: manteisio ar gyfoeth personol neu sefydliadol, dylanwad, neu arbenigedd, i wneud gwahaniaeth ystyrlon a pharhaol. Pan sonnir am ddyngarwch, tueddir i feddwl am Bill a Melinda Gates yn ariannu prosiectau i wneud gwelliannau ar raddfa fyd-eang i iechyd, addysg a chyfraddau tlodi. Ac eto, mae llawer o weithredoedd dyngarol yn digwydd ar raddfa tipyn llai, megis busnesau lleol yn rhoi i fanciau bwyd cymunedol, neu athro sydd wedi ymddeol yn ariannu ysgoloriaethau. Gyda’r gefnogaeth briodol, ac ar y cyflymder a’r raddfa gywir, gall dyngarwch wneud newidiadau cymdeithasol ac amgylcheddol cadarnhaol. Mae Green Allotments yn dod â dyngarwch yn ôl i randiroedd ar raddfa genedlaethol i Gymru a Lloegr.

Rhandiroedd a Dyngarwch: Hanes cysylltiedig

Yn hanesyddol, cafodd rhandiroedd eu creu er mwyn darparu diogeledd bwyd yn ystod cyfnodau o drafferthion economaidd, cyn datblygu’n fannau â buddion tra chyfarwydd sy’n mynd ymhell y tu hwnt i gynhyrchu bwyd.

Yn wir, mae gan randiroedd a dyngarwch hanes hir, gyda llawer o’r safleoedd rhandiroedd cynnar wedi eu creu gan ddyngarwyr yn gweithio yn llawn bwriadau da er mwyn newid cymdeithasol cadarnhaol. Er enghraifft, cynhwysodd Titus Salt randiroedd pan greodd y dref Saltaire, yng ngorllewin Swydd Efrog. Darparodd gyrff crefyddol randiroedd yn hanesyddol hefyd, megis Eglwys Loegr, yn ogystal ag elusennau a rhai unigolion cefnog.

Newidiodd hyn i gyd pan ddechreuodd cynghorau lleol ddarparu rhandiroedd yn gynnar yn y 1900au. Camodd dyngarwyr yn ôl o’u hymwneud â rhandiroedd ar y pwynt hwn, ac nid oes dim bron â bod o safleoedd rhandiroedd newydd wedi eu creu yn ddyngarol yn y blynyddoedd diwethaf cyn i Green Allotments ddod i’r fei.

Y broblem sy’n wynebu rhandiroedd heddiw

Heddiw, mae’r mwyafrif helaeth o randiroedd yn cael eu darparu gan gynghorau lleol, gyda rhywfaint o ddarpariaeth gan berchnogion tir eraill. Nid yw’n ofynnol i’r llywodraeth ganolog ariannu rhandiroedd ac felly mae’r ddyletswydd bob tro’n syrthio ar gynghorau lleol. Yn dilyn toriadau cyfredol gan y llywodraeth ganolog, mae llawer o gynghorau erbyn hyn ar fin mynd yn fethdalwyr. Mae prisiau tir ym Mhrydain yn uchel, felly prin yw’r cyfle economaidd i gynghorau i ddarparu nifer digonol o safleoedd rhandiroedd i gwrdd â’r galw uchel sicr am randiroedd. Ar ben hynny, mae addewid o hyd bod incwm ychwanegol i’w gael o werthu safle rhandiroedd sydd wedi ei osod ar dir uchel ei werth. Gallai’r warchodaeth dros randiroedd statudol sy’n berchen gan gynghorau ar draws Cymru a Lloegr ei diddymu ar fympwy gwleidyddol y Senedd yn San Steffan.

Yn y cyfamser, nid yw safleoedd rhandiroedd sy’n cael eu darparu gan unigolion preifat wedi eu hamddiffyn o gwbl, a gallant gael eu cau ar gais y perchennog. Mae hyn wedi digwydd yn enwedig ar ôl y pandemig, pan newidiodd perchnogaeth tir yn gynyddol yn sgil marwolaethau ac etifeddiaeth.

Daeth tarddiad bwyd yn bwysig eto yn ystod y pandemig, ynghyd â’r awydd i fod yn yr awyr agored ac yn nes at natur. A’r canlyniad? Tyfodd rhestrau aros am randir hyd yn oed yn fwy. Mae’r galw yn parhau i fod yn uchel, ond ychydig iawn o safleoedd rhandiroedd cyngor newydd sy’n cael eu creu.

Y broblem gyda chyllido rhandiroedd

Gyda chynghorau prin yn medru ariannu safleoedd rhandiroedd newydd, gelwir ar y sector ariannu annibynnol, er enghraifft i greu safleoedd rhandiroedd newydd, neu i wneud gwelliannau i’r safleoedd hynny sydd eisoes yn bodoli. Er bod gan y Deyrnas Unedig filoedd o ymddiriedolaethau elusennol, ymddiriedolaethau a ariennir gan gwmnïau, a chyllidwyr statudol, mae amharodrwydd yn eu plith i ariannu pryniad tir ar gyfer safleoedd rhandiroedd newydd neu i ariannu gwelliannau i safleoedd sefydledig. O fewn rhannau o’r sectorau ariannu annibynnol a statudol, mae’n gred bod rhandiroedd yn fuddiol i ‘unigolion’ yn unig, ac nad ydyn nhw’n ‘gymunedau’ gweithredol. Mae hynny er gwaethaf tystiolaeth a adolygwyd gan gymheiriaid o fanteision rhandiroedd, mae’r manteision hynny yn ymestyn ymhell y tu hwnt i giatiau’r safleoedd er lles y gymuned a’r blaned.

Bydd rhai cyllidwyr yn rhoddi i achosion penodol o dyfu bwyd. Mae’r rhain yn dueddol o fod ar gyfer amcanion ‘cymunedol’ arbennig, ac o ganlyniad, maent yn dueddol o ganolbwyntio ar brosiectau ymyrraeth ar un rhandir (er enghraifft, plot ysgol neu blot i unigolion sy’n profi materion iechyd meddwl), neu ar gyfer modelau eraill o ‘dyfu eich bwyd eich hun’ fel Bwyd Bendigedig (Incredible Edible) neu Capital Growth yn Llundain. Er bod yr achosion hyn yn deilwng o nawdd, nid ydyn nhw yn cyfarch y galw uchel parhaol am randiroedd nac yn darparu safleoedd rhandiroedd newydd cyfan. Mae’n amlwg bod pobl eisiau plot eu hunain, a bod yn rhan o gymuned rhandiroedd. Mae’r gofyn yn enbyd am safleoedd rhandiroedd newydd.

Ar y pwynt hwn mae Green Allotments yn cyrraedd y llwyfan. Mae Green Allotment gwrthod y syniad o randiroedd fel mannau sydd ‘mewn perygl’ ac ar gyfer unigolion yn unig. Yn hytrach mae Green Allotments yn symud tuag at greu safleoedd rhandiroedd sydd wedi’u gwarchod, sy’n gweithredu ar sail nid-er-elw, ac yn cael eu rheoli gan y gymuned. Mae Green Allotment bob amser yn gweithredu er budd yr elusen, a byth er elw.

Datrysiad Green Allotments: Dod â dyngarwch yn ôl i Randiroedd.

Mae Green Allotments yn ailgysylltu dyngarwch â rhandiroedd yn yr unfed ganrif ar hugain. Mae hwn yn strategaeth arloesol a hirdymor i greu safleoedd rhandiroedd newydd. Rydym yn manteisio ar ewyllys da dyngarwch er mwyn creu safleoedd newydd, gyda’r manteision ychwanegol o fwy o amddiffyniad, sicrwydd daliadaeth, a chysylltiad cymunedol llawr gwlad.

Mae model darparu a diogelu rhandiroedd Green Allotments yn wahanol i’r modelau traddodiadol o ddarparu rhandiroedd.

Y canlyniad: Y model darparu rhandiroedd mwyaf diogel a sicr yn y Deyrnas Unedig:

  • Tir rhandiroedd o dan berchnogaeth Green Allotments = Trwy orchymyn prynu gorfodol yn unig y gellir gwneud datblygiadau ar dir rhandiroedd.
  • Prydles rad ‘hedyn pupur’ o 30 mlynedd, gyda’r bwriad i adnewyddu = Sicrwydd daliadaeth i’r garddwyr ar ein safleoedd + sefydlogrwydd i’r gymuned leol o ran defnydd tir.
  • Safleoedd Green Allotment yn cael eu rheoli gan y gymuned = Penderfyniadau lleol yn cael eu gwneud gan bobl leol sy’n gweithredu fel gwarcheidwaid y tir.
  • Prydles rad ‘hedyn pupur’ + safleoedd yn cael eu rheoli gan y gymuned = Dim rhent tir yn daladwy gan gymuned y rhandiroedd i Green Allotments = Rhent rhandir i gael ei ailfuddsoddi yn y safle rhandiroedd gan y gymuned o arddwyr = Dim diffeithwch + cyfle am brosiectau wedi eu harwain gan y gymuned.
  • Garddio gwyrddach heb blaladdwyr na chwynladdwyr = Rheolaeth tir sy’n seiliedig ar natur + bioamrywiaeth well ac uwch.
  • Rheoliadau cryf y mae’n rhaid i Green Allotments gydymffurfio â nhw = Dim amwysedd o ran gonestrwydd perchennog tir + safleoedd rhandiroedd nid-er-elw.

Canlyniad: Y model darparu rhandiroedd mwyaf diogel a sicr yn y Deyrnas Unedig.

Heriau i Green Allotments

Mae pob gwaith newydd ac arloesol yn wynebu heriau ar y daith tuag at lwyddiant. Dull Green Allotment yw gweithio’n ofalus ar gyflymder synhwyrol, i brofi ein model a dysgu gwersi ar hyd y ffordd fel ein bod yn medru datblygu ymhellach.

Y prif heriau yw:

Heriau Ariannu – Cafodd elusen Green Allotments nawdd cychwynnol, yn wreiddiol gan un rhoddwr, ac mae’n cynllunio i ddatblygu sylfaen economaidd gynaliadwy. Mae gennym raglen waith glir i gysylltu gyda rhoddwyr tir, cyllid, ac adnoddau eraill posibl.

Sgiliau a Heriau Arbenigedd – Mae Green Allotments wedi bod chwilio am arbenigwyr mewn meysydd perthnasol i gynorthwyo a chefnogi datblygiad ein model darparu rhandiroedd a’n gweithgarwch fel elusen. Mae ein drws bob amser yn agored i bobl a sefydliadau a allai helpu, er enghraifft, daeth staff a gwirfoddolwyr arbenigol atom yn dilyn clywed am ein gwaith/y model.

Heriau Graddfa a Chyflymder – Yn hytrach na lansio model darparu rhandiroedd yn syth, rydym yn creu nifer o safleoedd i brofi a mireinio ein model. Rydym yn gwneud hynny gyda rhaglen waith sydd wedi ei chynllunio gyda dau lwybr, un lle rydym yn canfod y bobl ac yna’r tir, a’r llall lle rydym yn canfod y tir ac yna’r bobl. Rydym ni hefyd yn gwrando, yn arbennig ar farn gyhoeddus ynghylch datblygiadau mewn darpariaeth randiroedd, megis modelau diweddar sydd wedi eu hysgogi gan elw. Rydym ni hefyd yn dysgu ynghylch pa mor fawr neu fach y dylai safleoedd rhandiroedd fod, ac am estheteg rhandiroedd y mae’r rhan fwyaf yn ei ffafrio, er mwyn sicrhau ein bod yn cael croeso gan dirfeddianwyr cyfagos a thrigolion. Mae hyn i gyd yn helpu i greu model cadarn ar y raddfa a’r cyflymder cywir.

Tuag at ddyfodol newydd i randiroedd

Mae dyngarwch, yn ei holl ffurfiau, yn arf pwerus i welliant cymdeithasol ac economaidd. Mae ailgysylltu rhandiroedd gyda dyngarwch yn cynnig cyfleoedd newydd pan edrychir trwy wydr gwybodaeth, cyfleoedd a chysylltiadau sydd ar gael yng Nghymru a Lloegr gyfoes. Wrth gydweddu â’r amcanion o dyfu bwyd lleol, o gydlyniant cymunedol, ac o raglennu cynhwysol, gall ddyngarwch Green Allotments fywiogi byd rhandiroedd y DU. Trwy gefnogi rhandiroedd drwy ddatblygu isadeiledd, mentrau addysg a rhaglenni cynhwysol, gall ymdrechion dyngarol greu rhandiroedd newydd sydd yn fannau deinamig a gwydn o fywyd cymuned.

Trwy ein gwaith hyd yn hyn, a thrwy’r weithred o wrando, rydym yn dysgu beth y mae pobl wirioneddol ei heisiau (a beth nad oes ganddyn nhw ei heisiau) ar gyfer ac oddi wrth safleoedd rhandiroedd newydd. Trwy hyn rydym yn deall bod ein model darparu rhandiroedd yn boblogaidd ac yn cael ei chroesawu gan lawer o bobl, sefydliadau, a llunwyr polisïau, sy’n credu’n gryf y dylai rhandiroedd fod nid-er-elw. Trwy wrando ac addasu, gall model Green Allotments o ddarparu rhandiroedd symud yn ei flaen mewn ffordd a fydd yn cael ei werthfawrogi gan y rhai sydd eisiau rhandir, y cyhoedd, a llunwyr polisi.

Green Allotments Morpeth

Tir Morpeth

Yn ystod haf 2025, cwblhaodd Green Allotments bryniant ar dir amaethyddol 7 elw ger Morpeth, tref farchnad annibynnol yn Northumberland. Prynwyd y tir oddi wrth dirfeddiannwr lleol, ac mae wedi bod yn dir amaethyddol ers o leiaf y 1870au, ac o bosib cyn hynny.

Mae’n dir amaethyddol ffrwythlon Gradd 3 sydd wedi bod yn cael ei bori gan ddefaid, ac felly’n  ddelfrydol i’w drin ar gyfer rhandiroedd. Wedi ei leoli ar gyrion gogleddol y dref, sydd wedi profi gwaith adeiladu tai ar raddfa fawr yn y blynyddoedd diwethaf, ond dim rhandiroedd newydd, mae gan ein tir wedd agored ddymunol, ac mae wedi ei leoli ar ddechrau Llain Las gogleddol Morpeth, yn agos at stadau tai newydd a’r dref sefydledig hŷn.

Mae’r tir yn cynnwys nant ac ardal goediog fach tua’r cefn. Mae gennym hefyd (o bosibl) y gwrych mwyaf trwchus trwy Morpeth gyfan! Ac yntau’n 2 fedr o drwch, mae’r nodwedd linellol hon o ddraenen wen ac eithin sy’n gwahanu’r tir oddi wrth y ffordd fawr gyhoeddus, yn darparu hafan i adar lleol a mathau eraill o fywyd gwyllt. Rydym yn gweld ysgyfarnogod yn y cyffiniau yn rheolaidd. Dywed y bobl leol wrthym fod ganddyn nhw feddwl mawr o’r gwrych hwn, ac rydym yn cytuno ei fod yn nodwedd bwysig y dylid ei chadw. Rydym yn rhannu’r cariad tuag at y gwrych rhyfeddol hwn.

Green Allotments: Bob amser er budd elusen, byth er elw. Os hoffech chi ddysgu mwy, Cysylltwch â Ni

Cynllunio’r Rhandiroedd Newydd

Mae Green Allotments yn y broses o gynllunio nifer fach o randiroedd nid-er-elw ar y llain hon o dir. Bydd gan y rhandiroedd penodol hyn ymddangosiad pentrefol, er mwyn parchu a chydweddu â’r ardal hon lle mae’r dref a chefn gwlad yn cyfarfod. Er enghraifft, nid ydym yn caniatáu ffensio mewnol, ac rydym yn dewis llwybrau glaswellt rhwng plotiau – mae hyn i gyd yn annog gwedd ‘agored’ sydd yn cyd-fynd â lleoliad y tir glas. Mae ein ffocws ar dyfu bwyd a bioamrywiaeth ar sail nid-er-elw, ac yn ogystal ar agwedd gymdeithasol a chymunedol hollbwysig rhandiroedd.

Nid fyddwn yn defnyddio’r 7 erw i gyd ar gyfer rhandiroedd, bydd y tir sydd yn weddill yn cael ei ddefnyddio i warchod, annog a chynyddu bioamrywiaeth. Dewisom ein henw ‘Green Allotments’ er mwyn pwysleisio ein hamcanion garddio gwyrddach. Nid ydym yn caniatáu gwrteithiau na phlaladdwyr cemegol.

Y gymuned leol a thirfeddianwyr

Ein nod yw bod yn gymdogion da a pharchus lle bynnag y mae gennym safleoedd rhandiroedd. Unwaith y cafodd cynnig yr elusen ar y tir ei dderbyn, treuliodd ein Prif Weithredwr Deborah lawer o amser yn curo ar ddrysau yn y cyffiniau ac yn cyflwyno Green Allotments i aelodau’r gymuned leol.  Trwy hyn cawsom gyfarfod â thirfeddianwyr cyfagos, sydd wedi croesawu’r elusen, ac yn garedig iawn wedi rhannu gwybodaeth leol fanwl am y tir, yr ardal a’r gymuned gyda ni.

Derbyniodd pob busnes a chartref yn yr ardal lythyr manwl – ynghyd â gwahoddiad i rannu syniadau ac adborth – fel nad oedd ein cynlluniau yn gyfrinachol, gan ein bod yn croesawu mewnbwn gan y gymuned leol. Ysgrifenasom at y Cyngor Plwyf, y Cyngor Tref cyfagos, Cynghorydd y Ward, a hyd yn oed at y Ficer lleol, er mwyn rhannu ein syniadau a gofyn am adborth.

Trwy geisio ymgysylltu yn rhagweithiol gyda’r gymuned o’r cychwyn cyntaf, rydym ni wedi gallu dechrau siapio ein cynlluniau i weddu dyheadau, ymarferoldeb a chyfyngiadau lleol. Er enghraifft, mae pobl wedi gofyn am sicrwydd nad ydym yn bwriadu gosod cannoedd o randiroedd bychain i wneud elw ar y tir, ac roeddem yn falch o esbonio nad oeddem yn bwriadu gwneud hynny gan ein bod yn cytuno na fyddai hynny yn gynaliadwy. A thrwy gyfarfod â pherchennog y tir cyfagos yn ystod dyddiau cynnar ein gwaith cynllunio, roeddem yn hapus i gytuno ar reol ‘Dim Cŵn’ ar y safle penodol hwn, gan fod defaid yn aml yn pori ar y caeau cyfagos.

Awdurdod Cynllunio Lleol

Mae rhywfaint o feirniadu wedi bod yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar rai o’r darparwyr rhandiroedd hynny sy’n gweithredu er elw, ac yn creu rhandiroedd yn gyntaf ac yn ceisio cael caniatâd cynllunio yn hwyrach ymlaen. Nid felly mae ein helusen nid-er-elw yn gweithredu.

Mae Green Allotments wedi talu am gyngor manwl cyn gwneud cais, yn unol â chategori datblygiadau bach o’r Cyngor Cynllunio Lleol. Mae Green Allotments yn gweithredu yn y modd hwn i sicrhau ein bod yn gweithio oddi fewn i’r gyfraith ar ein tir.

Mae’r Cyngor Cynllunio Lleol, hyd yn hyn, wedi cynghori bod modd i’n cynlluniau gael eu cefnogi o dan ‘Amgylchiadau Arbennig o fewn y Llain Las’ ar yr amod bod rhai sylwadau yn cael eu hystyried. Mae’r cymal cynllunio hwn yn caniatáu creu rhandiroedd oddi mewn i’r Llain Las ar yr amod bod rhai amodau yn cael eu bodloni er mwyn cynnal estheteg agored y Llain Las. Mae Fframwaith Polisi Cynllunio Cenedlaethol (Rhagfyr 2024) yn cydnabod manteision rhandiroedd i gymunedau lleol yn gadarn.

Green Allotments: Bob amser er budd elusen, byth er elw. Os hoffech ddysgu mwy, Cysylltwch â Ni.

Grŵp Cychwyn Green Allotments Morpeth

Ar ôl dod i adnabod y gymdogaeth a Morpeth yn ehangach, dechreuodd yr elusen recriwtio am aelodau ar gyfer ‘Grŵp Cychwyn Green Allotments Morpeth’. O fewn dyddiau, roedd gennym saith o drigolion brwdfrydig yn awyddus i gymryd rhan, yn ogystal â llawer mwy o ymholiadau ynglŷn â sut oedd sicrhau plot. Mae galw am safle rhandiroedd newydd ym Morpeth yn sicr!

Mae aelodau grŵp cychwyn yn chwarae rôl bwysig yn y broses o sefydlu safle rhandiroedd nid-er-elw newydd, ac yn helpu i gysylltu darpar arddwyr â’r tir, yr elusen, a’n gweledigaeth ar gyfer y safle newydd.

Fel arfer, mae aelodau’n mynd ymlaen i gael rhandir ar y safle newydd.

Mae aelodau’r Grŵp Cychwyn wedi cymryd rhan mewn sesiwn ‘Cerdded y Tir’ gyda’r elusen, ac rydym yn cynnal cyfarfodydd yn rheolaidd i ddatblygu’r grŵp a’n cynlluniau ymhellach. Er enghraifft, rydym yn rhannu syniadau ar sut gall y safle edrych, a sut fath o gynllun fyddai’n gweithio orau.

Mae rhai o’n haelodau yn dod o’r ystadau tai newydd gerllaw. Mae’n galonogol dysgu bod eu hymwneud gydag ymgyrch nid-er-elw Green Allotments wedi bod yn gymorth iddyn nhw wneud ffrindiau newydd hefyd. Gall ystadau tai newydd fod yn fannau ynysol i drigolion newydd, fodd bynnag, mae ein helusen yn dod â phobl at ei gilydd, yn creu cymunedau newydd, ac yn brwydro yn erbyn ynysigrwydd cymdeithasol.

Green Allotments: Bob amser er budd elusen, byth er elw. Os hoffech ddysgu mwy, Cysylltwch â Ni.

Cyfrannwch i Green Allotments!

Rydym wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau (Rhif Elusen 1200535).

Croesewir rhoddion, cysylltwch â ni i holi am wneud rhodd. E-bost: [email protected]